![]() |
|
Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml,
yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt a'u holi. |
Rydym yn codi arian er mwyn cael nwyddau ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul, nwyddau ac anrhegion amser y Nadolig, gwibdaith yn yr haf, ac yn y blaen. Rydym hefyd yn codi arian ar gyfer rhai elisennau.
|
Diweddariad Ionawr 2007 - Fe fu cardiau unigryw o waith llaw o bob math ar werth o fis Hydref 2006 ymlaen hyd at y Nadolig gyda 33% o'r arian a dalwyd am bob carden yn mynd at waith yr Ysgol Sul. Fe godwyd £20 pynt y tro yma tuag at goffrau'r Ysgol Sul. Mwy am hyn ar y dudalen Newyddion.
Adeg y Nadolig 2005 fe wnaed cardiau unigryw a'u gwerthu ac fe godwyd £34 at waith yr Ysgol Sul. Mwy am hyn ar y dudalen Newyddion 2005.
Rydym yn gwneud casgliad ym mhob Ysgol Sul pryd mae pob aelod yn rhoi ychydig at waith yr Ysgol Sul fel y gallent.
Mae cynllun gan yr wefan "Amazon" ble maen't yn rhoi
arian i bobl/grwpiau sydd yn rhedeg gwefannau, os ydynt yn rhoi
cysylltiadau ar eu gwefannau i nwyddau ar wefan
ac yna fod pobl sydd yn clicio trwodd yn prynu nwyddau. Mae
cysylltiadau felly i'w gael mewn mannau ar y wefan hon ble mae
Amazon yn gwerthi nwyddau rydym wedi defnyddio yn ein gwersi.
Mae potel yn cael eu chadw yng nghyntedd y capel neu yn y festri er mwyn i un rhywun sydd am roi i fewn ychydig o'u newid man, sef ceiniogau, dwy geiniogau, pum ceiniogau, ac yn y blaen. Mae casglu arian man fel yma yn rhoi siawns i hyd yn oed yr ifancaf fod yn rhan or casgliad drwy roi ceiniog neu ddau i fewn. Mae'r arian a gesglid yn y ffordd yma yn cael ei ddanfon i ffwrdd at Mudiad Cenhadu y Bedyddwyr (BMS).
Yn dilyn y drychuneb a ddigwyddodd ar y 26ain Rhagfyr, 2004, pan drawodd ton fawr y tsunami nifer o wledydd gan achosi marwolaethau a dinistr ofnadwy, fe benderfynwyd agor y fotel yn y cyntedd yn syth. Er fod ddim arian mawn yn y fotel teimlwyd fod opb ceiniog yn cyfrif ac fe ddanfonwyd siec i ffwrdd i'r BMS, sydd a chysylltiadau a rhai o'r gwledydd a effeithiwyd.
Pob blwyddyn mae tua 40 o bobl yn ymuno mewn Clwb Nadolig ble maen't yn cynilo yn ystod y flwyddyn ac yna yn cael y cyfan nôl ychydig cyn y Nadolig. Mae'r tâl aelodaeth a'r llog yn mynd tuag at waith yr Ysgol Sul.
Yn y flwyddyn 2006 fe ddaeth £62 i fewn o dâl aelodaeth o'r clwb a £21.14 i fewn fel llôg o'r banc.
