Yn ol ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.
Luc 4 : 16

Ble? a Pryd?

Mae Penyparc yn Ngheredigion ar y ffordd fawr
i'r gogledd i Aberteifi.

Cliciwch ar leoliad y capel i weld llun ohono

Rhan amlaf mae ein Ysgol Sul yn cymryd lle am 2 o'r gloch (ag eithrio pan fod rihyrsal, Cymanfa Ganu, Oedfa Flynyddol, Oedfa Nadolig, neu Gwyliau'r Haf).

Mae holl aelodau'r Ysgol Sul yn ymgynull yn y Capel i ddechrau cyn i'r plant fynd allan i'r festri i gael eu gwers.

Pan fod oedfa hefyd am 2 o'r gloch mae pawb yn ymgynyll i'r oedfa yn gyntaf, yna, ar ôl yr emyn gyntaf, mae y plant yn dweud eu hadnodau cyn mynd allan i'r festri i gael eu gwers.

Yr arferiad oedd i Ddosbarth yr Oedolion gwrdd yn dilyn yr oedfa pan fod oedfa am 2 ond nid yw'r oedolion wedi cael gwers ers peth amser nawr. Rhowch wybod os ydych am i'r dosbarth ail ddechrau gwrdd.

Ar yr achlysiron pryn pan fod Oedfa am 4 rydym yn ceisio trefnu cael te am 3 o'r gloch, ar ôl yr Ysgol Sul, cyn mynd i'r oedfa.

Mae rhestr o'r amseroedd, geiriau i'w chwilio mewn adnodau, digwyddiadau arbennig, ac yn y blaen, i'w cael ar y dudalen "Gwybodaeth i'w nodi".

Ysgol Sul Penyparc : Ein Ysgol Sul Ni : Ble? a Pryd?
© Ysgol Sul Penyparc