"Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynny ei ddweud?"
Actau 17 : 18b

Diogelwch Aelodau

Teulu yw aelodau'r Ysgol Sul a'r Capel, Teulu Duw, ac fel aelodau o deulu fe ddylai pawb gynorthwyo i ofalu am bawb arall, yn hen ac ifanc.

Nid yw hyn yn golygu dim ond gofalu am ddiogelwch corfforol tra ar dir y capel, ond hefyd unrhyw beth sydd yn amharu ar ddiogelwch corfforol ac ysbrydol aelodau y tu allan i'r capel.

Fe ddylai pawb fod yn barod i wrando ar beth sydd gan eraill i'w ddweud, nid dim ond yn yr Ysgol Sul, ond os oes pethau tu allan i'r Ysgol Sul yn peri gofid. Os oes blentyn yn mynd at aelod arall o'r Capel neu'r Ysgol Sul i adrodd hanes rhywbeth sydd anghyfreithlon ni ddylid addo cadw'r peth yn gyfrinachol ac fe ddylyd pasio'r wybodaeth ymlaen i'r awdyrdodau priodol.

Os oes rhywbeth o'i le - gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrth rywun! Fe ddylai aelodau'r Ysgol Sul a'r Capel deimlo eu bod yn galled troi at rywun arall o fewn y teulu os ydynt mewn trafferth.

Er bod peth hwyl a sbort i'w gael yn ystod gwersi'r Ysgol Sul, mae rhai rheolau yn bwysig.

Rheolau Diogelwch :

Delio gyda phroblemau ar dir y capel (yn enwedig gyda'r plant a'r ifanc) :

Os fydd pethau yn mynd o'i le, a damwain yn digwydd, fe ddylai pawb wybod beth i'w wneud

 

Ysgol Sul Penyparc : Ein Ysgol Sul Ni : Diogelwch Aelodau
© Ysgol Sul Penyparc