Ar Saboth arall aeth i mewn i'r synagog a dysgu
Luc 6 : 6

Dosbarth y Plant a'r Ifanc

Rydym yn dewis thema gwahanol ar gyfer ei astudio yn yr Ysgol Sul bob blwyddyn. Eleni, y thema a ddewiswyd yw "Pobl y Beibl a'u Gwaith".

Fe fyddwn yn darllen storiau o'r Beibl, gwneud gwaith ysgrifennedig, lliwio, gwneud gwaith i'w arddangos, canu, ac yn y blaen.

Hefyd fe fyddwn yn cyfeirio at y thema mewn rhyw ffordd fach yn ystod ein oedfa Nadolig ym mis Rhagfyr, ac yn selio ein oedfa Flynyddol ym mis Mehefin ar y thema hefyd.

Darllenwch syt y dewisom y thema yn "Dewis Beth yw Astudio", beth wnaethom i baratou ein ffeiliau; pa eiriau ar y thema y dewisom i gael gafael arnynt mewn adnod neu bennill; pa storiau buom yn edrych arnynt a beth oedd ein gwaith ysgrifennedig yn "Storiau o'r Beibl". Mae gymaint o wahanol bethau y medrwn edrych arnynt wrth astudio'r thema yma, a llawer man y gallwn gael adnoddau ohonynt, fe welwch rhai syniadau am hyn ar ein tudalen "Adnoddau".


Dechreuwyd y flwyddyn drwy gael y disgybl hynnaf, Geraint, i rhoi cyfwyniad ar waith ac offer bugail yn y wlad yma nawr, cyn i ni edrych ar daflen waith yn rhoi hanes gwaith bugail amser y Beibl, ac yna pawb, gan gynnwys yr athrawes cael eu gwisgo i fyny fel bugeiliaid.

Y saer a'i offer edrychwyd arnynt nesaf, gan edrych ar offer saer o'r wlad yma a'u cymharu i'r hyn oedd ar gael yn ardal y Beibl amser yr Iesu.

Beirdd, emynwyr a'r Salmydd oedd y gwaith nesaf a edrychwyd arnynt. Mae'r salmau yn dal i gael eu cyfieithu a'u canu yn yr unfed ganrif ar ugain, fel ag yr oeddent pedair mil o flynyddoedd yn ôl yn fuan wedi i Dafydd eu hysgrifennu.

Ysgol Sul Penyparc : Gwaith Yr Ysgol Sul Eleni
© Ysgol Sul Penyparc