![]() |
|
Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea
yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth ser-ddewiniaid o'r dwyrain. |
Mehefin 2004 |
Cynhaliwyd ein oedfa deuluol flynyddol am 2004, yng ngofal aelodau'r Ysgol Sul, ar dydd Sul y 13fed Mehefin 2004 am 2 o'r gloch. Thema gwaith y flwyddyn, sef "Creaduriaid Creodd Duw", oedd thema'r oedfa, a gyda thaflunydd amlgyfrwn (multimedia projector) yn arddangos gwaith drwy gydol yr oedfa, a'r plant a'u hathrawes yn gwisgo crysau-T arbennig yn ymwneud a'r thema, cafwyd oedfa hwyliog dros ben.
![]() |
![]() Y criw yn eu crysau-T arbennig |
Cafwyd adnodau, storiau, emynau, eitemau, ac yn y blaen, ac, ynghyd a'u hathrawes, fe gymerodd tri o'r plant at yr allweddellau i chwarau yn ystod rhau emynau, i'r casgliad, ac fel eitem. Er bod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi eu wneud gan y plant fe gafwyd ychydig cymorth gan oedolyn neu ddau.
Fel gwaith creadigol fe wnaeth y plant actio allan y ddameg y gwnaethant feddwl amdani yn ystod eu gwersu am ddamhegion. Fe alwyd y ddameg yn "Dameg y Cor".
Cafwyd hefyd anerchiad pwrpasol i'r plant gan y pregethwr gwadd, sef Y Parchedig Gareth Morris.
Os ydych am ddarllen cynnwys yr oedfa fe allwch eu lawr-lwytho
fel dogfen "Word" drwy glicio yma -> ![]()
Daw'r emynau allan o Ganeuon Ffydd, a'r eitemau canu allan o "Clap a Chân i Dduw" a'n rhaglen Cymanfa Ganu 2004.