![]() |
|
||||
|
|||||
|
Fe fuom yn cyhoeddu "Papur Ysgol Sul Penyparc" am rhai blynyddoedd ac ar ddiwedd pob rhifyn roeddem yn gofyn a oedd rhywbeth roedd y darllenwyr am weld yn ymddangos yn y papur, ac os oedd rhywbeth i ddod ag ef i fewn. Fe allau fod yn Bos neu stori, yn hanesyn neu lun. Unrhywbeth a allau fod o ddiddordeb i aelodau'r Ysgol Sul ag eraill sydd yn darllen y papur.
Fe ddaeth cyn aelod o'r Ysgol Sul, oedd yn un o ffyddloniaid y capel, at yr Arolygydd gan ddweud fod ganddi lun o ddosbarth merched yr Ysgol Sul nôl pan oedd hi yn eu harddegau.
Meddyliwyd y byddau rhoi pwt o hanes a hen lun neu ddau yn y papur o ddiddordeb i lawer ac fe soniwyd am y peth yn yr Ysgol Sul ac yn y rhifyn nesaf o'r papur.
Fe ddechreuwyd y Cywaith Lluniau Hanesyddol nôl yn hanner diwethaf 1998 (gofynwyd am luniau neu pwt o stori i fynd gyda'r llun cyntaf hwnnw ar ddiwedd rhifyn 34 o Bapur Ysgol Sul Penyparc nôl ym mis Medi 1998). Ymddangosodd y llun hwnnw yn rhifyn 35 o Bapur Ysgol Sul Penyparc ynghyd a pwt o hanes. Roedd gymaint o ddefnydd wedi dod i fewn, nid yn unig lluniau ond pethau eraill megys taflenu oedfaon ordeinio a.y.y.b., ac felli fe benderfynwyd gwneud arddangosfa ohonynt a'u harddanos yn y festri yn ystod yr Oedfaon Blynyddol ym mis Mehefin 1999.
Yn rhifyn 36 o Bapur Ysgol Sul Penyparc fe rhoddwyd crynodeb o hanes Capel Penyparc gan ddechrau gyda darn a ysgrifennwyd yn 1957 gan Ysgrifenyddes y capel ar y pryd, Miss Eluned Lewis, gyda diweddariad yn ei ddilyn wedi ei ysgrifennu gan Mr Irfon James, Ysgrifennydd y capel yn 1999.
Fe fu'r arddangosfa mor boblogaidd fe adawyd yn ei le am rhai wythnosau ar ôl Oedfaon Blynyddol 1999 i rhoi cyfle i'r rhai nad oedd yn bresennol i'w weld, ac i eraill ei ail weld.
Fe wnaed gopïau o'r rhan fwyaf o'r lluniau a deunydd eraill cyn i'r gwreiddiol fynd nôl i'r rhai oedd eu perchen.
Nid ydyw pob copi o'r safon gorau, ond mae gwneud copïau digidol o gymaint ag y gallwn o'r hyn a gasglwyd yn ffordd dda o wneud yn siwr fod yr hyn a gasglwyd ar gael i'r rhai fydd a diddordeb yn hanes y capel yn y dyfodol, ac mae rhoi'r wybodaeth lan ar y Wê Fyd Eang yn ffordd rhwydd i eraill cael gafael ar yr hyn sydd ar gael.
I wneud peth synwyr o'r hyn ddaeth i fewn rydym wedi ceisio eu trefnu yn ôl trefn amser felli cliciwch drwodd i'r dudalen Llunell Amser er mwyn gweld yr hyn a gasglwyd.
Llunell AmserCyweithiau Ysgol
Rydym yn gwybod fod yr hyn a gasglwyd wedi bod o gymorth i rhai o ddisgyblion yr Ysgol Sul o oed ysgol uwchradd yn barod gan eu bod wedi bod yn gwneud cyweithiau ar y capel fel rhan o'u gwaith Addysg Grefyddol.
Ble rydym yn dweud fod y lluniau yn dod o gasgliad rhyw berson nid yw hyn yn golygu o rheidrwydd mae dyma'r person a gymerodd y llun, dim ond mae dyna y person ddaeth a'r copi i fewn. Os ydych yn credu y dylem newid unrhywbeth, neu os oes gennych wybodaeth ychwanegol am pwy tynnodd y lluniau a pryd, yma rhowch wybod i ni. Neu ps oes unrhyw beth gyda chi y gallau ychwanegu at yr hyn sydd gennym yn barod, er mwyn gwneud y cywaith yma yn fwy cynhwysfawr, fe allwch ddod ag ef i'r capel ar unrhyw dydd Sul pan fod Oedfa neu Ysgol Sul yno, neu fe allwch eu ddanfon i fewn drwy ddefnyddio'r wybodaeth cyswllt ar y dudalen Gwybodaeth i'w Nodi.
|
||||
Ysgol Sul Penyparc : Hanes : Cywaith Lluniau Hanesyddol
© Ysgol Sul Penyparc
Gwefan gan Gwyneth / Website by Gwyneth
|