
NODYN:
Os ydych yn cael problem i weld y fwydlen sydd uwch cynnwys y dudalen, o dan y logo a'r adnod, fe allwch weld rhestr o'r holl dudalennau sydd yn y wefan drwy glicio YMA!
(Fe all y broblem yma ddigwydd os ydych yn gwahardd sgriptiau rhag rhedeg yn eich porwr) |
|
I Fyni A'r Newydd Ac I Lawr A'r Hen
Os soniwch am fod yn aelod o ddosbarth yr Ysgol Sul a cael gwersi yn y festri wrth aelodau Ysgol Sul a Chapel Penyparc mae oedran a llawer i wneud a pha festri sydd yn dod i'r meddwl.
Mae'r aelodau hynnaf yn meddwl am yr hen festri, a'r mewn ddyfodiaid a'r aelodau sydd ychydig yn ifancach yn cofio am adael y capel ar ôl dechrau yr Ysgol Sul a mynd i fewn i'r festri newydd.
Yn 1954 daeth y newyd mawr yma ar fyd yng Nghapel Penyparc.
Daeth Mrs Gwyneth Jones a Mrs Molli James a lluniau i'w hychwanegu i'r casgliad o'r amser cyffroes yma yn hanes y capel. Mae rhai o'r lluniau yn dangos y gwaith o adeuladu'r newydd a dymchwel yr hen, a rhai o'r lluniau yn dangos y dathliad mawr a fu pan agorwyd y festri newydd yn swyddogol.
Os cliciwch ar y lluniau ac fe gewch weld fersiwn yn fwy ohonynt yn agor. Cauwch y llun mawr i ddod nôl i'r dudalen yma.
Yr hen festri gyda'r un newydd yn mynd lan wrth ei hochor gyda'r tywod yn barod i gmysgu'r sement wrth ochr y feidr a'r darnau i orffen y tô wrth fôn y clawdd ar waelod ochr chwith y llun. |
Mae y llun yma yn dangos yn blaen fod yr hen festri yn adeulad dau lawr. Fe adeuladwyd hon gyda stabl i'r ceffylau ar y llawr isaf, ac ystafell ddosbarth ar y llawr uchaf. Daeth y llun yma allan o gasgliad lluniau Mrs Gwyneth Jones.
|
| |
Ar ochr yma yr adeulad mae y grisiau cerrig yn arwain i fyni i'r ystafell uchaf.
|
Mae ochr y ffordd fawr o'r ddwy festri i'w gweld yn y llun yma cyn i'r sgyffalde gael eu tyni i lawr o'r un newydd. Mae simnau yr hen festri i'w weld yn sefyll i fyni uwch y tô. Ynghyd a cadw yr ystafell yn gynes fe fyddau y tan yn cael ddefnyddio i ferwi dwr i gael te ac i olchi'r llestri adeg y parti Nadolig. Daeth y llun yma allan o gasgliad lluniau Mrs Gwyneth Jones.
|
Dyma lun o'r adeuladydd, Mr B. G. Davies, un o aelodau ffyddlon y capel, yn tynu y llechu cyntaf oddi ar do yr hen festri. M Davies oedd adeiladydd y festri newydd a daeth y llun yma i fewn wrth ei ferch, Mrs Molly James.
|
Yn y llun yma fe welwch y capel a'r festri newydd gyda dim ond ychydig o gerrig yr hen festri ar ôl ar yr ochr dde. Daeth y llun yma allan o gasgliad lluniau Mrs Gwyneth Jones.
|
Dyma lun o ddrws y festri newydd yn dangos y dyddiad yr adeuladwyd uwch eu ben.
|
Yr Agoriad
Mae'r llun yma, o gasgliad Mrs Gwyneth Jones, yn dangos agor y festri newydd yn swyddogol yn ystod yr hydref, 1954. Agorwyd y festri gan Mr a Mrs Davies, Aberporth, aelodau hynnaf y capel ar y pryd.
Yn y llun yma, o'r chwith i'r dde, mae :
Y Parch. D. H. Bevan (Gweinidog); Mr B. G. Davies (Adeuladydd); Mrs Davies a Mr Davies (Aberporth) - sef aelodau hynaf y capel |
Daeth y llun yma i fewn o gasgliad Mrs Gwyneth Jones oedd yn yr oedfa agoriadol. Nid oes llawer o newydiadau mawr wedi eu gwneud y tu fewn i'r festri ers i'r gynulleidfa gyntaf yma ddod i mewn. Mae y bwrdd ar ochr chwith y llun yn dal yno. Mae hyd yn oed rhai o'r hen seddau mawr pren yn dal yno, er i llawer ohonynt gael mynd i wneud lle i seddau mwy cyfforddus i eistedd arnynt ac ysgafnach i'w symyd.
|
Fe rhoddwyd gacen i'r dathliadau gan Mrs May Davies, Glanifor a Mrs M. Davies, Cwmarch, Penparc. Yn y llun yma gwelwn Mr Davies yn ei thori.
Yn y llun yma, o'r chwith i'r dde, mae :
Mr Wilfrid Evans, Treharris; Y Parch. Mrs Rosina Davies, Aberteifi; Mrs Bevan; Y Parch. D. H. Bevan (Y Gweinidog); Mr Davies, Aberporth.
Fe ddaeth y llun i fewn o gasgliad Mrs Gwyneth Jones. |
Taflen yr Agoriad

(Dogfen .pdf - 239Kb)
|