![]() |
|
||||
|
|
|||||
|
Tachwedd 2004
Yn 2004 roedd y festri yn 50 mlwydd oedd. Gyda rhai pethau trydanol, ac yn y blaen, angen eu gwneud yn y festri fe benderfynwyd gau'r festri am ychydig fisoedd, ac ar ôl cael y gwaith wedi eu gwneud, cynal oedfa argenig i ail agor y festri a dathlu'r pum deg mlynedd o ddefnydd a wnaed ohoni.
Ar brynhawn Sul, Tachwedd 21ain fe gynhaliwyd yr oedfa. Fe ddaeth Mr John Bevan, mab Y Parchedig D Haydn Bevan a oedd yn weinidog ar y capel pan agorwyd y festri, i bregethu ac ail agor y festri yn swyddogol. Cafodd y plant a'r ifanc siawns i gymryd rhan yn yr oedfa hefyd. Fe gyd-ddarllenon nhw un o'r emynau, ac hefyd gwneud eitemau canu. Dwy gân dra wahanol y dewyswyd - canu "Dod Ar Fy Mhen" yn barti deulais, a canu "Duw Wnaeth Y Creaduriaid" yn llawn hwyl gyda tamboreens ac offerynau taro eraill.
Roedd y te a gafwyd yn y festri wedi'r oedfa yn wych. Roedd cacen arbennig wedi ei wneud ar gyfer y dathlu ac fe ofynodd Mr Bevan i'r grwp a fu yn canu i gyd i ymuno gydag ef a'i wraig i dori'r gacen.
Diolch i bawb a ddaeth i'r achlysur ac i bawb a fu yn gweithio i wneud y diwrnod yn un mor arbennig.
Taflen yr Oedfa Ail Agor y Festri(Dogfen .pdf - 483Kb) |
||||
|
Ysgol Sul Penyparc : Hanes : Dathliad - 50 mlynedd y festri ac ail agor wedi adnewyddi
© Ysgol Sul Penyparc
Gwefan gan Gwyneth / Website by Gwyneth
|
|||||