
NODYN:
Os ydych yn cael problem i weld y fwydlen sydd uwch cynnwys y dudalen, o dan y logo a'r adnod, fe allwch weld rhestr o'r holl dudalennau sydd yn y wefan drwy glicio YMA!
(Fe all y broblem yma ddigwydd os ydych yn gwahardd sgriptiau rhag rhedeg yn eich porwr) |
|
Rhwng 1920 a 1924

(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)
Mae yr enwau canlynnol wedi eu hysgrifennu ar y cefn -
Rees (Bryn y Wawr ); Jackie (Crugefa); Ernest Owen; Tom Gibby; Tom Jenkins; Albert; Arthur Davies; Sammy Rees (Bryn-y-Wawr)
Ben Morris; Wilfred Evans; Mr Bowen; George Evans; Dai Lewis
Roedd Mr Bowen yn weinidog yma o 1920 i 1924.
Fel hyn y mae Mr J. James, C.M., (Ysgrifennydd yr Eglwys ar y pryd) wedi disgrifio gweinidogaeth Mr Bowen ym Mhenyparc yn ei ddarn "Amlinelliad o Hanes Eglwys Penyparc o'i chychwyniad" a ymddangosodd yn Llawlyfr Cymanfa 1934 -
"Yn 1920 derbyniodd y Parch. Gwyn owen alwad o Gaersalem, Llwynpia. Profodd ei hun yn bregethwr sylweddol a thra chymeradwy, ac yn weinidog doeth a llafurus yn ystod ei arosiad yma. Ymadawodd yn 1924 i gymeryd gofal Eglwys Balliol Road, Lerpwl. Dychwelodd ar ôl hynny i'r Deheudir yn weinidog ar eglwys bwysig y Pwll, Llanelli. Yn ystod ei weinidogaeth ef codwyd dau bregethwr, sef y Parch. J. Charles Evans a'r Parch. J. Thomas. Y cyntaf, nodir, yw weinidog Soar, Pontlottyn heddiw. Bu farw yr olaf ar ôl gwenidogaeth fer gyda'r Saeson."
|