![]() |
|
Yn ol ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth,
a chododd i ddarllen. |
Salwch yr Athrawes
Mae cyfres o salwch, un ar ôl y llall, wedi cadw'r athrawes o'r Ysgol Sul am beth amser, ac felli nid yw'r dosbarth wedi cael eu gynnal am tua blwyddyn, er hyn, mae wedi bod yn galondid i weld y plant a'r ifanc yn tynnu at eu gilydd i gynnal oedfa pan fo'r galw. Diolch yn fawr i chi gyd.
Gobeithia Gwyneth y bydd yn cadw i gryfhau, heb gael unrhyw inffecsion arall, ac y bydd modd ail ddechrau'r Ysgol Sul yn y missoedd nesaf.
Oedfa Nadolig 2008
Cynhaliwyd Oedfa Nadolig Deuluol yn festri'r capel ar Dydd Sul, 23ain Rhagfyr, 2008, am 2 o'r gloch. Fe gymerodd sawl un o blant ac ifanc y capel rhan - Glesni, Elin, Beca, Leah, Lisa, Iestyn, Sion, Llyr a Geraint - gan ddarllen o'r ysgrythur, gweddio, rhoi emynnau allan, chwarae'r ffliwt, canu mewn grwp, ac yn y blaen. Cafwyd anerchiad gan Y Parch. Irfon C. Roberts.
Cafwyd tê blasus a tamaid o sbort ar ôl yr oedfa, cyn i'r Parch. Irfon Roberts rhoi anrhegion allan i'r plant a'r ifanc gymerodd rhan, ynghyd a tri o rhai bach arall a ddaeth i'r oedfa gyda'u rhieni a'u cefndryd.

Gwasanaeth Nadolig yng nghartref Yr Hafod
Fe wnaeth rhai o blant ac ifanc y capel, ynghyd a parti canu yr oedolion, gynnal Oedfa Nadolig yng nghartref Yr Hafod, Rhos-y-Dre, Aberteifi, ar Dydd Sul, yr 2il o Rhagfyr 2007. Unwaith eto fe ddangosodd y cartref eu haelioni drwy darpar Mins Peis i'r rhai gymerodd rhan ar ôl yr oedfa.
Cynal Gwasanaeth yng nghartref Yr Hafod
Fe wnaeth rhai o blant ac ifanc y capel gynnal gwasanaeth yng nghartref Yr Hafod, Rhos-y-Dre, Aberteifi, yn ystod yr hydref. Cafwyd paned a rhywbeth neis i fwyta yn dilyn.
Cynal Gwasanaeth yng Nghartref Glynnest
Fe aeth aelodau'r capel, ynghyd a rhai o'r plant, i Cartref Henoed y Bedyddwyr, Glynnest, Castell Newydd Emlyn, yn ystod yr haf i gynnal oedfa i'r deiliaid, gyda tê i ddilyn.
Cymanfa Ganu 2007
Cynhaliwyd oedfa'r Plant o Gymanfa Ganu Bedyddwyr Aberteifi a'r cylch yng Nghapel Bethania, Aberteifi, ar dydd Sul yr 22ain o Ebrill, 2007, am 10 o'r gloch. Fe wnaeth dau o bobol ifanc Ysgol Sul Penyparc, Geraint a Glesni, gymeryd rhan drwy ganu a rhoi emynau allan. Roedd hefyd chwech o aelodau ifanc capel Siloam, Y Ferwig, yn cymeryd rhan.
Fe wnaeth aelod arall o'r capel, Llyr, gymryd at y rhannau arweiniol yn oedfa'r oedolion yn y nos.
Gwerthi Cardiau
Fe fu rhai o aelodau'r Ysgol Sul wrthi yn gwneud cardiau unigryw o waith llaw yn ystod tymor Hydref/Gaeaf 2006. Roedd yna amrywiaeth o wahanol cardiau ar gyfer penblwydd, genedigaeth, Nadolig, ac yn y blaen. Fe fu'r cardiau ar werth ar ddiwedd yr Ysgol Sul am rhai wythnosau yn arwain lan i'r Nadolig gyda 33% o bris y cardiau yn mynd tuag at waith yr Ysgol Sul. Gwerthwyd tua 60 o gardiau am £1 yr un gyda £20 yn mynd at goffrai'r Ysgol Sul.

Nadolig 2006
Am 2 o'r gloch ar brynhawn Sul y 17fed o Rhagfyr, cynhaliwyd Oedfa Nadolig Deuluol yn y capel yng ngofal 5 o blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Gan ddefnyddio darlleniadau o CD a llawer o eitemau cerddorol gan y plant, fe gafwyd oedfa ychydig yn wahanol i'r arfer oedd yn tynu sylw'r gynulleidfa at stori wreiddiol y Nadolig.
Yn dilyn yr oedfa fe gafwyd de yn y festri gydag anrhegion yn cael eu dosbarthu i'r plant a'r bobl ifanc.

Oedfa Flynyddol 2006
Cynhaliwyd Oedfa Deuluol Flynyddol 2006 yng Ngofal Aelodau'r Ysgol Sul ar Sul y 25ain Mehefin 2006 yn y festri am 3.30 o'r gloch.
Thema yr oedfa oedd "Llefydd Y Beibl", sef thema gwaith y dosbarth Ysgol Sul am y flwyddyn. Defnyddiwyd gluniadur a taflunydd aml gyfrwng i ddangos mapiau oedd yn dangos lleoliad rhai o'r llefydd y buom yn astudio, cafwyd adnodau gyda llawr o enwau llefydd o'r Beibl ynddynt lleoliad y llefydd hyn hefyd, ac yn y blaen. Hefyd cafwyd cyflwyniad bywiog o dan y teitl "Beth? yw Beth ?" lle roedd y plant a'r ifanc yn esbonio i'r gynulleudfa beth mae'r rhan "beth" yn enwau llefydd fel Bethania, Bethsaida, Bethlehem, ac yn y blaen, yn feddwl.
Bu te i'r plant i'r plant yng nghefn y festri ar ddiwedd yr oedfa.
Cymanfa Ganu 2006
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu'r Plant am 10 o'r gloch y bore, ar Sul y 23ain o Ebrill 2006 yng nghapel Bethania, Aberteifi. Tri o bobl ifanc Penyparc, sef Geraint, Llyr a Glesni, a gymerodd at y rhannau arweiniol gan ddarllen casgliad o adnodau ar Gymanfa a Chanu i ddechrau'r oedfa cyn cyhoeddu'r weddi agoriadol. Roedd pump o blant a phobol ifanc Ysgol Sul Penyparc yn cymryd rhan yn yr oedfa fore, ynghyd a dau o Siloam, Y Ferwig. Fe fu'r holl blant ac ifanc, yn eu tro, yn darllen allan yr emynau a ganwyd. Gyda nifer mor fach o blant ac ifanc fe fu'r gynulleudfa yn cynorthwyo gyda canu y rhan fwyaf o'r emynau.

Hen Newyddion
Newyddion 2005.
Newyddion 2004.