Yn ol ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.
Luc 4 : 16

Newyddion 2004

Nadolig 2004

Ar brynhawn dydd Sul, 19eg Rhagfyr, 2004, fe gynhaliwyd Oedfa'r Nadolig yng nghofal aelodau ifanc yr Ysgol Sul. Oedfa Darllen ac Emyn y cynhaliwyd y tro yma gyda'r plant yn cymryd eu tro i ddarllen stori'r geni allan, fel y mae'n ymddangos yn "Beibl Lliw y Teulu", ac hefyd i rhoi allan y carolau gwahanol y bu y gynulleidfa yn canu. Bu tri gwahanol plentyn wrth yr allweddellau - un yn chwarae i emyn, un yn chwarae i'r casgliad ac un yn gwneud eitem. Cafwyd hefyd undawd gan un o'r merched gyda un arall yn cyfeilio ar y xylaphone, a eitem unigol gan un o'r bechgyn ar y xylaphone. Gyda offerynau fel maraccas, triongl, tamboreens, ac yn y blaen, cafwyd hwyl mawr yn perfformio eitem y "Grand Finale" sef y plant a'r ifanc yn canu "Trysor y Crud", ac fe gawsant hefyd chwarae'r offerynau yn ystod yr emyn diwethaf.

Roedd te i bawb yn y festri ar ol yr oedfa gyda mwy na digon o fwyd i bawb. Cyn i bawb adael fe gafwyd ymweliad gan Sion Corn. Roedd perthnasau ifanc rhai o'r aelodau wedi dod i weld yr oedfa a mwynhau y te parti, a chware teg iddo, roedd yr hen Sion Corn wedi dod a rhywbeth bach iddynt hwythau hefyd. Diolch i Sion Corn am ddod.

Ail Agor y Festri/Dathlu 50

Yn 2004 roedd y festri yn 50 mlwydd oedd. Gyda rhai pethau trydanol, ac yn y blaen, angen eu gwneud yn y festri fe benderfynwyd gau'r festri am ychydig fisoedd, ac ar ol cael y gwaith wedi eu gwneud, cynal oedfa argenig i ail agor y festri a dathlu'r pum deg mlynedd o ddefnydd a wnaed ohoni.

Ar brynhawn Sul, Tachwedd 21ain fe gynhaliwyd yr oedfa. Fe ddaeth Mr John Bevan, mab Y Parchedig D Haydn Bevan a oedd yn weinidog ar y capel pan agorwyd y festri, i bregethu ac ail agor y festri yn swyddogol. Cafodd y plant a'r ifanc siawns i gymryd rhan yn yr oedfa hefyd. Fe gyd-ddarllenon nhw un o'r emynau, ac hefyd gwneud eitemau canu. Dwy gan dra wahanol y dewyswyd - canu "Dod Ar Fy Mhen" yn barti deulais, a canu "Duw Wnaeth Y Creaduriaid" yn llawn hwyl gyda tamboreens ac offerynau taro eraill.

Roedd y te a gafwyd yn y festri wedi'r oedfa yn wych. Roedd cacen arbennig wedi ei wneud ar gyfer y dathlu ac fe ofynodd Mr Bevan i'r grwp a fu yn canu i gyd i ymuno gydag ef a'i wraig i dori'r gacen.

Diolch i bawb a ddaeth i'r achlysur ac i bawb a fu yn gweithio i wneud y diwrnod yn un mor arbennig.

Oedfa Ddiolchgarwch

Cafwyd ddwy oedfa ddiolchgarwch ar dydd Sul, 31ain Hydref, 2004. Am ddau y prynhawn fe gynhaliodd plant a phobol ifanc yr Ysgol Sul rhan mewn oedfa deuluol. Gyda un o'r plant yn chwarae'r organ i'r emyn gyntaf, ag athrawes dosbarth y plant a'r ifanc yn gwneud y darlleniad, cafodd y plant y siawns i rhoi'r emynau allan a darllen y weddi. Cafwyd hefyd eitem gan y plant a'r ifanc - canu "Diolch am y Cynhaeaf". Mr Heydn Lewis, un o'r deuaconiaid a ddywedodd gair cyn yr emyn diwethaf.

Oedfa bregeth cafwyd yn yr hwyr am 6 o'r gloch, gyda'n cyn weinidog, Y Parch. Meurig Thomas, yn pregethu.

Gwibdaith

Ar ddydd Mercher, y 4ydd o Awst, fe aeth criw bach o'r Ysgol Sul, gyda rhai perthnasau, ar wibdaith i Heatherton. Cafodd y plant hwyl ofnadwy yn gwneud pob math o weithgareddau difyr. Roedd hefyd digon o le i'r oedolion nad oedd am gerdded ymhell i eistedd a mwynhau clonc a bwyd.

Rhyfedd o beth oedd y "Maize Maize" gyda rhai ym mynd ar goll yn llwyr yng nghanol y cae - a rhai hyd yn oed yn ffonio allan o'r canol i ddweud eu bod yn methu cael gafael ar y ffordd allan! Ac mae'n od fel mae rhai o blant yn medru cael gafael ar ddwr a glywchi yn ddiferi hyd yn oed ar drip Ysgol Sul.

Darllenathon - Diweddariad

Ar Mehefin yr 20fed cynhaliwyd Darllenathon. Beth ar y ddaear yw darllenathon mae rhai yn siwr o ofyn? Wel, pan fod rhywun yn cymryd rhan mewn Marathon maent yn rhedeg 26 milltir a 385 llath - yr hyn wnaeth aelodau Ysgol Sul Penyparc, o bob oed, oedd darllen 26 o storïau'r Beibl, un ar ôl y llall, fel unigolion, a chyd adrodd Gweddi'r Arglwydd. Gofynnwyd i berthnasau a ffryndiau i'n noddi i wneud y Ddarllenathon. Rhwng yr arian a gasglwyd ar y dydd a'r noddiadau a ddaeth i fewn mor belled, (hyd at 20-7-04) mae £140.20 wedi dod i fewn, a hefyd £20 o rhoddion ychwanegol at waith yr Ysgol Sul. Mae mwy am y darllenathon yn y darn a ddilyn a ddaeth o'n tudalen "Codi Arian".

Pan fod rhywun yn cymryd rhan mewn Marathon maent yn rhedeg 26 milltir 385 llath, ond, gan nad oes un o aelodau'r Ysgol Sul yn medru gwneud y fath gamp penderfynwyd gwneud Darllenathon er mwyn codi arian i'r Ysol Sul, yn lle Marathon!!

Ar Mehefin yr 20fed cynhaliwyd Darllenathon fel oedfa argennig yn y capel, yn lle oedfa bregeth arferol. Fe fu aelodau Ysgol Sul Penyparc, o bob oed, wrthi am dros awr a hanner yn darllen 26 o storïau'r Beibl, un ar ôl y llall, fel unigolion, a chyd adrodd Gweddi'r Arglwydd.

Roedd y darllenwyr wedi bod yn gofyn i berthnasau a ffryndiau i'w noddi i wneud y Ddarllenathon. Ac erbyn i'r cyfan ddod i fewn, (yr arian a gasglwyd ar y dydd a'r noddiadau), mae £140.20 wedi dod i fewn, a hefyd £20 o rhoddion ychwanegol at waith yr Ysgol Sul.

Os oes rhywun am rhoi rhagor at waith yr Ysgol Sul fe allwch ei ddanfon at Miss Gwyneth George neu un o'r swyddogion.

Fe allwch lwytho i lawr dogfen (.rtf) yn rhestri'r 26 stori a ddarllenwyd drwy glicio yma -> .

Fe welwch fod sawl fersiwn o'r Beibl ar gyfer plant wedi eu defnyddio er mwyn i'r rhai ifancaf gael yr un siawns i gymryd rhan yn raenus a'r rhai hynnaf.

Gan mae Creaduriaid Creodd Duw yw thema gwaith y flwyddyn, os darllenwch y storiau yn ofalys fe welwch fod son am rhyw greadur ym mhob un o'r storiau rhywle.

Fe rhoddwyd taflen waith i'r plant yn ystod yr oedfa, sef gwaith gwrando ble ofynwyd iddynt wrando allan yn ystod y storiau i gael gafael ar enwau deg gwahanol math o greaduriaid. Fe allwch gael copi o'r daflend rwy glicio yma -> .

Oedfa Flynyddol

Ar Mehefin 13fed cynhaliwyd Oedfaon Blynyddol y Capel gyda'r oedfa brynhawn yng ngofal aelodau'r Ysgol Sul. Thema gwaith y flwyddyn, sef "Creaduriaid Creodd Duw" oedd thema'r oedfa. Gyda'r plant i gyd, a'u hathrawes, yn gwisgo Cris-T arbennig yn dangos y thema cafwyd oedfa hwyliog yn defnyddio uwchdaflunudd amlgyfrwng i ddangos gwaith ar y bwrdd gwyn tra bod yr aelodau yn canu, darllen a rhoi cyflwyniad. Gwelwch ein tudalen Oedfa Flynyddol 2004 am fwy o'r hanes.

Cymanfa Ganu - Diweddariad

Ar fore Sul, y 25ain o Ebrill, casglodd nifer fach o blant y cylch ynghyd i gymryd rhan yng Nghymanfa Ganu, Bethseida, Llandudoch. Roedd saith o aelodau ifanc Penyparc yn cymryd rhan. Dau o'n aelodau blaenllaw oedd yn dechrau'r oedfa drwy ddarllen casgliad o adnodau ar "Moli a Gweddi", canu can a gweddio. Roedd y saith yn canu yn y cor ar y galeri ac yn rhoi emynau allan. Roedd perthnasu hen ac ifanc yna i gynorthwy a gwrando ac fe gafwyd oedfa dda er y mae dim ond naw o blant oedd yna yn cymryd rhan.

Oedfa yng Ngofal yr Aelodau : 22-2-04

Pan gynhaliwyd oedfa yng ngofal yr aelodau ar yr 22ain o Chwefror fe wnaith 3 o blant yr Ysgol Sul gymryd rhan. Buont wrthi yn rhoi allan emynau, darllen, gweddio, chwarae'r organ i'r casgliad, ac hefyd, fel grwp gyda'u hathrawes, yn canu'r gân "Duw wnaeth y creaduriaid" allan o'r llyfr "Clap a Chân i Dduw".

Ysgol Sul Penyparc : Ein Ysgol Sul Ni : Newyddion : Newyddion 2004
© Ysgol Sul Penyparc