![]() |
|
Yn ol ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth,
a chododd i ddarllen. |
|
Nadolig 2005
Er mwyn i chi gael blas o'r oedfa fe welwch yn dilyn y cyflwyniad a ddarllenodd un o'r bobol ifanc fel dechrau i'r oedfa.
|
Oedfa'r Cyngor Eglwysi Rhyddion
Cynhaliwyd oedfa Nadolig y Cyngor Eglwysi Rhyddion yn festri capel Bethania, Aberteifi, ar ddydd Sul, 11eg Rhagfyr, 2005. Ynghyd a llawer o aelodau o gapelu arall y cylch yn darllen, canu ac adrodd, fe fu 3 o aelodau ifanc capel Penyparc yn cymryd rhan. We wnaethant ganu carol i gyfeiliant Mair Wilson o Bethania.
Gwerthi Cardiau
Y gobaith ar ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi oedd trefni Noson Goffi ac arwerthiant, rhywbryd cyn y Nadolig, i godi arian i'r Ysgol Sul. Fe fwriodd rhai o'r aelodau ati i wneud cardiau unigryw a man nwyddau eraill ar gyfer gwerthi yn ystod y noson, ond, oherwydd gymaint o alwadau a digwyddiadau eraill, fe fethwyd trefnu dyddiad i'r noson. Fe benderfynwyd felly i osod y nwyddau oedd ar gael allan yn y festri a rhoi siawns i bawb oedd yn yr oedfaon ar ddechrau mis Rhagfyr i alw i fewn i bryny rhai.
Mor belled mae £34.00 wedi dod i fewn. Os oes rhywun yn dal heb dod i fewn ag arian am y nwyddau y bu iddynt ddewis fe allwch ei rhoi i Miss Gwyneth George.
Oedfa Ddiolchgarwch 2005
Cynhaliwd Oedfa Ddiolchgarwch Deuluol yn y capel am 2 o'r gloch ar dydd Sul y 9fed o Hydref, 2005. Tri o aelodau ifanc yr Ysgol Sul, ynghyd a'u hathrawes a fu wrth awenau yn rhoi allan emynau ac adnodau, darllen a gweddio, ac yn y blaen. Hefyd aelodau'r Ysgol Sul, gyda peth cymorth Mam a Anti, fu yn gyfrifol am y sioe anhygoel o addyrniadau pwrpasol ar y bedair sil ffenest.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Gwibdaith
Gyda choffrau'r Ysgol Sul yn rhy brin o arian i dalu am fws fe gawsom drip lleol eleni.
Fe aeth pawb yng ngheir eu hunain a chwrdd ar Draeth Mawr, Trefdraeth, am 11.30 yb, ar yr 8fed o Awst.
Gyda'r plant i gyd wedi dod a perthnasau neu ffrindiau gyda nhw, roedd digon o blant yna i gael hwyl gyda'i gilydd yn chwarae criced, tafli ffrisbi, chwarae bat a phêl, a heb anghofio'r bwced a'r rhaw. Ac wrth gwrs ~ nofio a chwarae yn y dwr.
Fe fuom yn ddigon lwcus i gael man delfrydol ar y traeth i barcio ein ceir a rhoi'r blancedi a'r seddi allan.
Roedd pawb wedi dod a mwy na digon o fwyd i gael cinio a the ar y traeth, ac fe roddodd yr Ysgol Sul arian poced i blant yr Ysgol Sul er mwyn iddynt gael hufen ia, neu lolipop, fel yr oeddent am.
ON
Erbyn hyn mae Mr Hubert Price wedi gwella o'r dolur gafodd ar
ei droed tra yn nofio, ac mae'r rhai gafodd llosg haul ddim yn
goch rhagor!
Oedfa Flynyddol
Cynhaliwyd Oedfa Deuluol Flynyddol 2005 yng ngofal aelodau'r Ysgol Sul ar dydd Sul, y 26ain Mehefin 2004 am 2 o'r gloch. Roedd thema'r Oedfa yn dilyn yr un thema a gwaith dosbarth y plant a'r ifanc am y flwyddyn, sef - Y Newyddion a'r Tywydd. Mi gymerodd chwech o blant a phobol ifanc rhan yn yr oedfa, ynghyd a'u hathrawes. Gyda'r ifanc am ehangu'r dilliau o wneud gwaith creadigol yn ystod y flwyddyn, mi oedd yr oedfa yn sioe i'r llygad ac i'r glust. Roedd sgetsis wedi eu ffilmio ymlaen llaw yn dangos slant wahanol ar rhai o ddigwyddiadau amser y Beibl; cyflwyniadau darllen, gweddio a canu wedi eu paratou gyda lluniau pwrpasol fel cyflwyniad "PowerPoint", a'r rhain i gyd yn cael eu dangos ar sgrin fawr; ynghyd a'r emynau, adnodau ac eitemau arferol.
Cymanfa Ganu
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu 2005 ym Methsaida, Llandudoch ar Sul, 24ain Ebrill. Yn ol eu harfer fe fu aelodau ifanc Ysgol Sul Penyparc yn rhoi emynau allan ac yn canu ar eu gorau. Er mae ond nifer fach oedd yna roedd yn bleser gweld y plant wrth eu gwaith.