![]() |
|
Dywedodd Iesu wrtho, "Myfi yw'r ffordd
a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof
fi." |
|
Gwefan yr Ysgol Sul Rydym yn chwilio am wahanol ffyrdd i arddangos y gwaith mae dosbarth y plant yn gwneud bob blwyddyn. Rydym wedi penderfynu creu gwefan er mwyn rhoi enghreifftiau o'r math o waith mae'r plant wedi bod yn gwneud i fyny i bawb eu gweld. Fe fydd y gwaith yma yn ymddangos ar y wefan o dan y pennawd "Gwaith yr Ysgol Sul Eleni", ac fe fyddwn yn ychwanegu iddo fel yr ydym yn mynd ymlaen. Mae yn ddwy brif ran arall, sef "Ein Ysgol Sul Ni", a fydd yn cynnwys pethau fel "Gwybodaeth i'w Nodi" - megis y gair i gael gafael ynddo mewn adnod neu bennill, ac yn y blaen. Hefyd rydym yn mynd i gasglu pethau o'r gorffennol ynghyd o dan y teitl "Hanes". Mae'r pennawd yma yn cynnwys "Cywaith Lluniau Hanesyddol" ble fyddwn yn ychwanegu lluniau yn mynd nôl can mlynedd, rhai a gasglwyd pan fu aelodau'r Capel a'r Ysgol Sul yn dod i fewn a lluniau yn dangos digwyddiadau'r capel yn y gorffennol er mwyn gwneud arddangosfa ychydig o flynyddoedd yn ôl. Fe fydd hefyd bytiau o hanes allan o hen rifau o "Papur Ysgol Sul Penyparc". |
Diogelwch Gan fod gymaint o sôn wedi bod yn ystod y blynyddoedd diweddar am "Ddiogelwch Plant", a'r ffaith fod rhai pobl gydag amcan ddrwg yn chwilio'r we at eu dibenion eu hun, mae peth ymchwil wedi cael ei wneud er mwyn gweld pa gamau gallwn gymryd i gadw'r plant yn ddiogel wrth adael i'w gwaith a'u hymdrechion perfformio gael eu harddangos. Camau Diogelwch
|
Trafod Pellach
Mae'r gwaith yma mewn cyfnod o ddatblygiad. Os oes gennych unrhyw bwynt yr hoffech drafod, ynglyn â'r gwaith ei hun neu'r camau diogelwch, dewch i drafod ef gyda Miss Gwyneth George amser yr Ysgol Sul (mae rhan amlaf i fyny yn y festri o leiaf hanner awr cyn dechrau'r Ysgol Sul os ydych am). Os cred unrhyw un fod angen newid llun neu destun, rhowch wybod i ni.
